Dameg

Stori fer alegorïaidd ac iddi bwrpas addysgol neu foesol yw dameg. Fel rheol, bodau dynol ydy cymeriadau dameg;[1] gelwir stori debyg sydd yn cynnwys anifeiliaid neu fodau eraill yn gymeriadau dynweddol yn ffabl. Nod y ddameg yw llunio cydweddiad rhwng esiampl o ymddygiad dynol ac ymddygiad y ddynolryw yn gyffredinol. Gellir olrhain y ddameg yn ôl i draddodiadau llên lafar cynllythrennog fel modd o drosglwyddo doethineb y werin o oes i oes.[2]

  1. H. J. Hughes, Gwerthfawrogi Lleyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1959), t. 166.
  2. (Saesneg) Fable, parable, and allegory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search